Heddiw, mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi mesurau ar waith a fydd yn gweld dull mwy cadarn o hunan-ynysu yn digwydd. Gallwch ddarllen cwmpas llawn y mesurau yma .
Rydym wedi cael ymholiadau ynghylch beth mae hyn yn ei olygu iโn Prosiect GOFAL sydd รขโr nod o helpuโr rheini syโn ynysig, yn fregus, yn ddi-waith, neuโn methu รข chael bwyd yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym ni ac elusennau eraill sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen ar hyn o bryd yn gweithio i egluro’r sefyllfa gyda’r Llywodraeth.
Fodd bynnag, mae ein prosiect penodol yn amddiffyn Defnyddwyr Gwasanaeth a Gwirfoddolwyr trwy weithredu dull gweithio o bell lle bynnag y bo modd. Mae ein gweithdrefn gwirfoddoli yn manylu ar sut mae’n rhaid i wirfoddolwyr gyflawni eu dyletswyddau, ac mae’r rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn gallu cysylltu รข Defnyddwyr Gwasanaeth o’u cartrefi trwy ein system cymorth ar-lein ein hunain a system ffรดn soffistigedig.
Gallwn eich sicrhau bod y prosiect yn parhau. Rydym yn hyblyg ac yn gallu addasu ein trefn er mwyn helpuโr rhai mewn angen yn ein cymunedau lleol.
Hoffem hefyd eich atgoffa i gyd fod eich iechyd meddwl yr un mor bwysig รข’ch iechyd corfforol. Peidiwch รข theimlo’n unig ar hyn o bryd, ac os oes angen i chi siarad รข rhywun, rydyn ni yma i chi.
Er mwyn darganfod mwy, gweler ein tudalen prosiect bwrpasol .