blank

Heddiw, mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi mesurau ar waith a fydd yn gweld dull mwy cadarn o hunan-ynysu yn digwydd. Gallwch ddarllen cwmpas llawn y mesurau yma .

Rydym wedi cael ymholiadau ynghylch beth mae hyn yn ei olygu i’n Prosiect GOFAL sydd â’r nod o helpu’r rheini sy’n ynysig, yn fregus, yn ddi-waith, neu’n methu â chael bwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym ni ac elusennau eraill sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen ar hyn o bryd yn gweithio i egluro’r sefyllfa gyda’r Llywodraeth.

Fodd bynnag, mae ein prosiect penodol yn amddiffyn Defnyddwyr Gwasanaeth a Gwirfoddolwyr trwy weithredu dull gweithio o bell lle bynnag y bo modd. Mae ein gweithdrefn gwirfoddoli yn manylu ar sut mae’n rhaid i wirfoddolwyr gyflawni eu dyletswyddau, ac mae’r rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn gallu cysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth o’u cartrefi trwy ein system cymorth ar-lein ein hunain a system ffôn soffistigedig.

Gallwn eich sicrhau bod y prosiect yn parhau. Rydym yn hyblyg ac yn gallu addasu ein trefn er mwyn helpu’r rhai mewn angen yn ein cymunedau lleol.

Hoffem hefyd eich atgoffa i gyd fod eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â’ch iechyd corfforol. Peidiwch â theimlo’n unig ar hyn o bryd, ac os oes angen i chi siarad â rhywun, rydyn ni yma i chi.

Er mwyn darganfod mwy, gweler ein tudalen prosiect bwrpasol .

Of further interest...

blank
December 8,2023

Ymddiriedolaeth y Plwyf yn Croesawu Nerys Beckett fel Arweinydd Prosiect GOFAL Newydd

Mewn cam a gynlluniwyd i atgyfnerthu a datblygu mentrau

Please note that in order to celebrate the resurrection of Jesus and to enjoy the Easter Holidays, The Parish Trust will be closed from Thursday 28th March 2024 and will reopen on Monday 8th April 2024. We wish all our stakeholders and beneficiaries a Happy Easter.

blank
Derbyn y newyddion diweddaraf

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr!

Rhowch eich gwybodaeth isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf…

blank

Which website are you trying to visit?