Fel Prif Swyddog Gweithredol The Parish Trust, rwyf yn siomedig iawn bod cyllideb hydref y llywodraeth a gyhoeddwyd heddiw yn cynnig cyn lleied o gefnogaeth i elusennau. Mae’r sector elusennol wedi bod ar flaen y gad o ran ymateb i anghenion ein cymunedau, yn enwedig yn ystod anawsterau economaidd y blynyddoedd diwethaf, a’r pandemig cyn hynny. Eto i gyd, er gwaethaf ein cyfraniadau sylweddol, mae’n ymddangos bod elusennau yn wynebu mwy o faich gyda chydnabyddiaeth gyfyngedig.
Un o’r agweddau sy’n peri’r pryder mwyaf yw’r cynnydd o 1.2% mewn Yswiriant Gwladol, nad yw elusennau wedi’u heithrio ohono, er bod y sector cyhoeddus wedi’i ddiogelu. I elusennau fel ein un ni, sy’n gweithredu ar adnoddau cyfyngedig, mae hyn yn rhoi straen ychwanegol ar ein harian. Bydd y cynnydd yn sicr yn cael effaith ar ein gallu i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a chefnogi’r bobl sy’n dibynnu arnom, tra’n ceisio cynnig cyflog byw go iawn i staff.
Rydym yn annog llunwyr polisi i gydnabod y gwaith amhrisiadwy y mae elusennau yn ei ddarparu, nid yn unig mewn termau economaidd ond hefyd o ran llesiant a gwydnwch cymunedau ledled y DU. Mae’n hanfodol, wrth symud ymlaen, bod sefydliadau elusennol yn cael cynnig cefnogaeth ac ystyriaeth fwy sylweddol wrth wneud penderfyniadau polisi.