Mae ein Clwb Cinio Cymunedol yn ofod i bobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd ddod at ei gilydd am bryd o fwyd.
Mae’r clwb cinio yn fenter newydd i Ymddiriedolaeth y Plwyf ar gyfer 2022, a disgwyliwn ddatblygu’r Clwb Cinio i gynnwys sesiynau llawn gwybodaeth ar ôl cinio, adloniant, a siaradwyr amrywiol i ymweld â ni.
Mae cinio fel arfer yn cynnwys pryd poeth a phwdin, ac yn costio £4 y pen.
Gall pobl gofrestru ar-lein trwy unrhyw un o ddigwyddiadau’r Clwb Cinio Cymunedol, neu drwy ffonio 02921 880 212 opsiwn 1 i archebu dros y ffôn.
Mae ein Calendr yn cynnwys manylion y Clybiau Cinio Cymunedol sydd ar ddod.
Rhowch eich gwybodaeth isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf…