Er mwyn caniatáu i’n staff a’n gwirfoddolwyr gael gorffwys haeddiannol ac i ddathlu atgyfodiad Iesu yn ystod cyfnod y Pasg, bydd ein swyddfeydd yn cau ddydd Iau 2 Ebrill ac yn ailagor ddydd Llun 13 Ebrill. I’r rhai sy’n derbyn cefnogaeth gan ein Prosiect CARE, y cyfle olaf i ofyn am barsel bwyd yw 12pm ddydd Mercher 1 Ebrill. I weithwyr proffesiynol sy’n gofyn am gefnogaeth gan ein Banc Babanod, gellir gwneud atgyfeiriadau ar unrhyw adeg yn ystod y seibiant gyda chasgliadau’n ailddechrau o ddydd Llun 13 Ebrill. Dymunwn Basg heddychlon a bendigedig i chi.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.
You can revoke your consent any time using the Revoke consent button.