Lansio Cyrsiau Newydd ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan Brofedigaeth
Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf yma yn Ymddiriedolaeth y Plwyf, rydym yn cynnal cyrsiau sydd wedi’u hanelu at wella iechyd meddwl a lles cyffredinol aelodau ein cymuned leol. Mae’r cwrs cyntaf rydym yn ei gynnig ym mis Gorffennaf yn canolbwyntio ar brofedigaeth, colled a’r profiad o alar.